Gras, Gobaith a Gogoniant : Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan

個数:

Gras, Gobaith a Gogoniant : Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan

  • 提携先の海外書籍取次会社に在庫がございます。通常約2週間で発送いたします。
    重要ご説明事項
    1. 納期遅延や、ご入手不能となる場合が若干ございます。
    2. 複数冊ご注文の場合、分割発送となる場合がございます。
    3. 美品のご指定は承りかねます。

    ●3Dセキュア導入とクレジットカードによるお支払いについて
  • 【入荷遅延について】
    世界情勢の影響により、海外からお取り寄せとなる洋書・洋古書の入荷が、表示している標準的な納期よりも遅延する場合がございます。
    おそれいりますが、あらかじめご了承くださいますようお願い申し上げます。
  • ◆画像の表紙や帯等は実物とは異なる場合があります。
  • ◆ウェブストアでの洋書販売価格は、弊社店舗等での販売価格とは異なります。
    また、洋書販売価格は、ご注文確定時点での日本円価格となります。
    ご注文確定後に、同じ洋書の販売価格が変動しても、それは反映されません。
  • 製本 Paperback:紙装版/ペーパーバック版/ページ数 128 p.
  • 言語 WEL
  • 商品コード 9781837721986

Full Description

Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848-1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw'r gyfrol gyntaf arno sy'n dadansoddi'n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae'n cloriannu ei gefndir a'i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a'r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â'r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi'i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae'r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae'r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio'i berthnasedd i'r Gymru gyfoes.

Contents

Rhagair
Rhestr dyddiadau a ffeithiau bywgraffyddol
Byrfoddau
Pennod 1: Emrys ap Iwan yn yr ugeinfed ganrif a thu hwnt
i. T. Gwynn Jones a Saunders Lewis
ii. R. T. Jenkins a D. Myrddin Lloyd
iii. Yr adwaith a chanol y ganrif
iv. Y saithdegau a'r wythdegau
v. Y ganrif newydd
Pennod 2: Y Beibl a'r cyd-destun diwinyddol
i. Emrys ap Iwan a'r Beibl
ii. Y cyd-destun diwinyddol
Pennod 3: Emrys ap Iwan a sylwedd y ffydd
i. Trindodaeth a'r athrawiaeth am Dduw
ii. Cristoleg ac athrawiaeth yr iawn
Pennod 4: Ufudd-dod ffydd, yr eglwys a'r sacramentau
i. Ffydd, gweithredoedd a phrofiad
ii. Athrawiaeth Emrys am yr eglwys
iii. Y sacramentau: bedydd a'r cymun
Pennod 5: Cenedlaetholdeb a diwinyddiaeth diwylliant
i. Cenedlaetholdeb Emrys
ii. Y gorchymyn diwylliannol
Pennod 6: Eschatoleg a'r Farn
Pennod 7: Bwrw golwg yn ôl
Mynegai

最近チェックした商品