Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633 : Casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau'r cartref, crefftau, amaeth a byd natur

個数:

Geirfâu'r Fflyd, 1632-1633 : Casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau'r cartref, crefftau, amaeth a byd natur

  • 提携先の海外書籍取次会社に在庫がございます。通常約2週間で発送いたします。
    重要ご説明事項
    1. 納期遅延や、ご入手不能となる場合が若干ございます。
    2. 複数冊ご注文の場合、分割発送となる場合がございます。
    3. 美品のご指定は承りかねます。

    ●3Dセキュア導入とクレジットカードによるお支払いについて
  • 【入荷遅延について】
    世界情勢の影響により、海外からお取り寄せとなる洋書・洋古書の入荷が、表示している標準的な納期よりも遅延する場合がございます。
    おそれいりますが、あらかじめご了承くださいますようお願い申し上げます。
  • ◆画像の表紙や帯等は実物とは異なる場合があります。
  • ◆ウェブストアでの洋書販売価格は、弊社店舗等での販売価格とは異なります。
    また、洋書販売価格は、ご注文確定時点での日本円価格となります。
    ご注文確定後に、同じ洋書の販売価格が変動しても、それは反映されません。
  • 製本 Hardcover:ハードカバー版/ページ数 540 p.
  • 言語 WEL
  • 商品コード 9781837720545

Full Description

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580-1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i'r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau'n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu'n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi'n daclus mewn tair llawysgrif. Mae'r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a'i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a'u hoffer; dyn, ei gorff a'i afiechydon, a'r gemau a'r chwaraeon a'i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu'n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Contents

RHAGAIR
DELWEDDAU
BYRFODDAU
RHAGYMADRODD
1 John Jones: Bywgraffiad byr
2 Gwaith geiriadurol a geirfaol John Jones
1 Gwaith geiriadurol
2 Gwaith geirfaol
3 Peniarth 308
3 Geirfâu'r Fflyd
1 Y tair llawysgrif a'u cynnwys
2 Y drefn thematig
3 Natur a phwysigrwydd Geirfâu'r Fflyd
4 Ffynonellau
5 Y Cyfreithiau
6 Vocabularium Cornicum
4 Geiriaduron thematig
5 John Jones a'r traddodiad geiriadurol Cymraeg
6 Iaith ac orgraff
1 Iaith
2 Orgraff ei Gymraeg
3 Orgraff ei Saesneg
7 Diweddglo
DULL Y GOLYGU
Rhan I: Y Testun
Rhan II: Y Mynegai Nodiadol
RHAN I: Y TESTUN
Llyfr I: Peniarth 304
Llyfr II: Peniarth 305
Llyfr III: Peniarth 306
ATODIAD
1 Amrafaelion henwae ar lysseuoedd yn lladin a Saesnec a Chymraeg
2 Amrafel henweu i'r un llysiewyn
3 Henwae llysie yn Gymraeg ac yn Saesnec
4 Geirieu y'w doedyd wrth anifelied
5. Henwae priodol ar ychen
6 Henwae ar warthog
7 Henwae ar wyr ynymrafaelio ar yrun henw
RHAN II:MYNEGAI NODIADOL
Mynegaii EiriauYchwanegol
LLYFRYDDIAETH

最近チェックした商品