- ホーム
- > 洋書
- > 英文書
- > History / World
Full Description
Dyma gyfrol sy'n ymdrin a hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai'r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i'r Cymry drafod pynciau'r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu'n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth - mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gwyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu'r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.
Contents
CyflwyniadPennod 1: Newyddiaduriaeth Gymraeg AmericaPennod 2: Heb Dduw heb ddim, Duw a digon': Enwadaeth a Chrefydd Cymry AmericaPennod 3: 'Cyhoeddiad rhydd ac anmhleidgar'? Gwleidyddiaeth Cymry America dylanwad y wasgPennod 4: 'Oes y byd i'r iaith Gymreig?' Parhad yr iaith Gymaeg yn AmericaPennod 5: 'Llon heddy yw llenyddiaeth?' Traddodiad llenyddol a diwylliant Cymry America. Casgliad: 'Tra Mor Tra Brython?' Dylanwad y wasg a pharhad diwylliant Cymraeg America. NodiadauLlyfryddiaeth